
Beth sy' mlaen?
Cyfarfodydd grŵp ar lein
Gweithgareddau plant ar lein
Cyfarfodydd gweddi ar lein
Alpha ar lein
Mae digon i fod yn rhan ohono bob wythnos. Mae grwpiau bach yn cyfarfod mewn tai ei gilydd am goffi, sgwrs a chyfeillgarwch. Mae'r lleoliadau ar draws Caerfyrddin ac mewn pentrefi o amgylch. Rydym yn galw'r grwpiau hyn yn 'grwpiau bywyd' gan ein bod yn eu hystyried fel rhan annatod o fywyd eglwys. Trwy grwpiau bywyd gallwn gefnogi'n gilydd. Gallwn hefyd fod yn fwriadol wrth adeiladu cyfeillgarwch a rhannu'r llawenydd o archwilio'r Beibl a gweddïo gyda'n gilydd. Os carech ymuno, gofynnwch i ni.
Mae'r cwrs Alpha yn digwydd dwywaith y flwyddyn mewn partneriaeth ag Eglwys Bethel Caerfyrddin a Byddin yr Iachawdwriaeth. Nod Alpha yw caniatáu i bobl archwilio ffydd mewn amgylchedd cyfeillgar a di bwysau. Os carech gael pryd o fwyd, a chyfle i gyfarfod pobl newydd wrth archwilio ffydd drwy ofyn cwestiynau, cofrestrwch fan hyn:
Mae gan yr eglwys ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, o helfa wyau Pasg, i ddigwyddiadau i godi arian tuag at elusennau yn Affrica ac ar draws y byd.
Alpha is on Thursday evening
Next course starts: 25th September 2025

Alpha
Upcoming Events
- Gwen, 24 HydCarmarthenJoin us for the gathering - a christian youth event designed for young people to worship, hear from God's word and have fun together. Jake Parker from Dorset Youth for Christ is our guest speaker!