
Rhoi
Mae haelioni wrth roi yn ei gwneud hi'n bosibl i Eglwys Tywi rhedeg gwasanaethau ar y Sul, gweithgareddau canol wythnos, gwaith y plant a'r ieuenctid, bendithio gwaith cenhadol mewn gwledydd tramor, a chwrdd ag anghenion ymarferol ac ysbrydol yn lleol. Mae Tywi yn eglwys hael, ac rydym mor ddiolchgar am bawb sydd yn gwneud hyn yn bosibl.
Mae dwy ffordd y gall bobl roi'n ariannol i Eglwys Tywi. Yn gyntaf, drwy gyfrannu ar y Sul neu'n ail, drwy ddebyd uniongyrchol i'r eglwys a'i gwaith.
Mae yna sawl ffordd ymarferol o gyfrannu at fywyd yr eglwys os mai dyma'r eglwys a'r teulu y carech fod yn rhan ohoni. Gall hyn fod ar y Sul neu mewn gweithgareddau canol wythnos. Cysylltwch â Helen Griffiths helengriffiths@towychurch.co.uk neu unrhyw un o'r tîm arwain ar y Sul os carech wneud hyn.
​
Diolch o galon! - Tîm Arwain Tywi
​