Ieuenctid Tywi
Ein gweledigaeth yw creu amgylchedd, llefydd a phrofiadau lle gall ieuenctid ffynnu.
Mae gweithgareddau ieuenctid y Sul i ddisgyblion uwchradd blwyddyn 7-10. Mae ieuenctid Blwyddyn11+ yn rhan o'r prif gyfarfod
CLWB IEUENCTID 'TOWY TRIBE'
ymunwch
Os ydych ym mlwyddyn 7-10, ac yn byw yn ardal Caerfyrddin, mae Clwb Ieuenctid 'Towy Tribe' i chi!
Rydym ar agor bob nos Wener rhwng 7- 8.45pm.
Dyma gyfle gwych i chi ymlacio a mwynhau cwmni ffrindiau. Mae gennym gemau, snaciau, heriau, a chyfle i drafod am 10-20 munud er mwyn edrych ar gwestiynau am fywyd o bersbectif Cristnogol.
Rydym yn cwrdd yn yr ystafell gyfarfod fawr fyny staer yn swyddfeydd Prosiect Xcel (Safle Bowlio Xcel).
pethau eraill
Rydym hefyd yn trefnu llawer o weithgareddau hwyl yn ystod gwyliau ysgol. Dyma enghreifftiau o bethau rydym wedi gwneud yn y gorffennol:
-
Parc sgrialu
-
Gweithdy sgiliau pêl droed
-
Gweithdy drymio
-
Gweithdy crefft
-
Nofio mewn afon
-
Bowlio
-
Gweithgaredd caiac
Edrychwch isod am weithgareddau sy'n dod yn fuan.
CLWB IEUENCTID
Blynyddoedd ysgol 7-10
Bob nos Wener 7yh - 8.45yh
Soul Survivor
Blynyddoedd ysgol 7-12
Haf 2019
EDRYCHWCH FAN HYN
Cadwch lygad mas am bethau eraill sydd i ddod