
Amdanom
Am Eglwys Gymunedol Tywi
Mae gan Eglwys Gymunedol Tywi naws cynnes, croesawgar a chyfeillgar. Fe ddarganfyddwch bobl sy'n rhannu bywyd gyda'i gilydd. Mae pob person yn werthfawr ac yn derbyn gofal a chariad. Rydym yn gwneud ein gorau i arddangos y cariad a'r rhyddid mae Iesu yn ei rhoi i ni. Rydym yn cyd-ddathlu pan ddaw uchafbwyntiau bywyd, ac yn cefnogi ein gilydd yn ymarferol ac emosiynol pan ddaw cyfnodau isel ac anodd.
Rydym yn ceisio bod yn ffres ac yn berthnasol, gan gadw i fyny gyda chelfyddyd ein byd tra'n aros yn ffyddlon i air Duw. Dewch i gwrdd â ni. Cawn goffi, sgwrs a chyfle i archwilio ffydd a bywyd.
Arweinyddiaeth

Paul Griffiths is the Pastor of Towy Church.
He and his wife Caroline have been leading Towy since 2018.




A team of incredible Elders lead direction for Towy Church.
Left to Right:
Niall Pickup, Adam Coates and Hazel Bates





Our church deacons lead in prayer, mission and community ministries.
Left to Right:
Angelo & Heather, Wyn & Helen, Chris & Nicky, Mary
Ein cred
Am Dduw
Dim ond un Duw sydd, yn greawdwr a rheolwr y bydysawd. Mae'n byw yn dragywydd, yn dri pherson arbennig a chyfartal - y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glan.
Genesis 1:1 Salm 90:2; 1 Pedr 1:2; 2
Am ddynoliaeth
Creodd Duw pobl i fod fel Ef ei hun o ran delwedd a chymeriad, ac i gael awdurdod dros y ddaear. Er i ddyn cael ei greu fel prif wrthrych cread Duw, mae dynoliaeth wedi cael ei ddifetha gan anufudd-dod tuag at Dduw, a elwir pechod. Mae pechod yn ein gwahanu oddi wrth Dduw.
Genesis 1:26,27; 3:22 Salm 8:3-6; Rhufeiniaid 3:23; Eseia 59:1, 2
Am Iesu Grist
Iesu Grist yw Mab Duw. Mae'n gyfartal a'r Tad a'r Ysbryd Glan. Roedd bywyd Iesu yn hollol ddibechod, a rhoddodd ei fywyd ar y groes fel aberth perffaith dros bechodau dynol ryw. Ar ôl tri diwrnod fe atgyfododd o'r meirw fel tystiolaeth o'i bŵer dros bechod a marwolaeth. Esgynnodd i'r nefoedd, ac fe ddaw yn ôl rhyw ddydd i deyrnasu fel Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi. Mathew 1:22, 23; Eseia 9:6; Ioan 10:10, 14:10-17; 1 Corinthiaid 15:3, 4; Rhufeiniaid 1:3, 4; 1 Timotheus 6:14, 15
Am iachawdwriaeth
Iachawdwriaeth yw adferiad dynol ryw i Grist drwy fywyd tragwyddol. Mae ein hiachawdwriaeth yn rhodd rhad ac am ddim oddi wrth Dduw i ddynol ryw drwy Grist. Gall neb wneud yn iawn am ei bechod drwy wella ei hunan a bod yn dda - dim ond trwy ymddiried yng Nghrist, a chynnig Duw o faddeuant.
Rhufeiniaid 6:23; Effesiaid 2:8, 9; Ioan 14:6, 1:12; Titus 3:5; Galatiaid 3:26;
Am y Beibl
Gair Duw yw'r Beibl, wedi ei ysgrifennu gan ddynion dan arweiniad goruwchnaturiol Dduw. Dyma brif ffynhonnell gwirionedd, a chonglfaen cred a bywyd Cristnogol. Gan ei fod wedi ei ysbrydoli gan Dduw, y Beibl yw'r gwirionedd, heb gamgymeriad na chymysgedd.
2 Timotheus 3:16; 2 Pedr 1:20, 21; 2 Timotheus 1:13; Salm 119:105,160
Am yr Ysbryd Glan
Mae'r Ysbryd Glan yn gyfartal a'r Tad a'r Mab. Mae ei bresenoldeb yn ein byd yn ein hachosi i weld yr angen am Iesu. Mae'n byw ym mhob Cristion o eiliad cyntaf iachawdwriaeth. Wrth droi ato'n ddyddiol mae'n rhoi arweiniad o ran yr hyn sy'n dda a drwg, ac yn rhoi nerth i ni fyw bywyd cyflawn gan ddeall gwirioneddau ysbrydol.
2 Corinthiaid 3:17; Ioan 16:7-13, 14:16,17; Actau 1:8; 1 Corinthiaid 2:12 3:16; Effesiaid 1:13; Galatiaid 5:25
Am Fedydd
Mae bedydd yn ddatganiad cyhoeddus eich bod wedi derbyn Iesu Grist fel eich gwaredwr. Mae'r bedydd yn cynrychioli marwolaeth, claddu ac atgyfodiad Crist, ac yn arwydd eich bod yn derbyn yr hyn mae Ef wedi gwneud drosoch. Nid yw bedydd yn eich achub, ond yn arwydd i'r byd eich bod wedi eich achub eisoes. Mae'n orchymyn Beiblaidd, ac yn dangos eich cariad a'ch ufudd-dod i Iesu.
Rhufeiniaid 6:3-5; Colosiaid 2:12; Effesiaid 2:8-9; Mathew 28:19-20
Am yr Eglwys
Credwn mai'r Eglwys yw gobaith y byd, a chorff sy'n derbyn bywyd a nerth gan yr Ysbryd. Mae'r Eglwys wedi ymrwymo i addoli Duw, rhannu'r Efengyl, ymestyn at bobl sy'n brifo, trawsnewid bywydau, hyrwyddo cyfiawnder a chariad, a bod mewn perthynas gyda'i gilydd. Credwn hefyd y dylwn roi yn hael o'n hamser, ein talentau a'n harian fel diolchgarwch i Dduw sydd wedi rhoi'r cyfan i ni.
Rhufeiniaid 12:5; 1 Corinthiaia 12:12-27; Effesiaid 4:12
Am dragwyddoldeb
Rydym yn aros am ail ddyfodiad personol a gweledol Crist i gyflawni addewidion a phwrpas Duw. Byddwn i gyd yn profi Ei farn cyn byw gyda'n gilydd a Duw mewn maddeuant ac iachawdwriaeth, neu fe fyddwn yn cael ein gwahanu oddi wrtho am byth drwy bechod. Trwy hyn, bydd Duw yn sefydlu nefoedd newydd a daear newydd.
Ioan 3:16; Rhufeiniaid 6:23; 1 Ioan 5:11-12; Mathew 25:31-46; Datguddiad 21:1-4