top of page

Cymuned

Logo Xcel project.png

yn rhan o gymuned

Wrth galon bywyd Eglwys mae pobl, a bywydau pawb y gallwn eu cyffwrdd yn ddyddiol. Ein cenhadaeth yw cwrdd ag anghenion ein cymuned, yn ymarferol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol. Wrth wneud hyn ein nod yw bod yn real a pherthnasol fel y gallwn wneud gwahaniaeth. 

​

Yn 2013 sefydlodd Eglwys Gymunedol Tywi Prosiect Xcel fel menter gymdeithasol. Mae'r prosiect yn cynnwys Bowlio Xcel, Banc Bwyd Caerfyrddin, Canolfan Ailgylchu Celfi Xcel, a Siop Gymunedol Xcel.

 

Mae gwaith y prosiect yn cael effaith bositif ar gannoedd o fywydau yn ddyddiol ac wythnosol drwy roi cymorth i rai sydd mewn argyfwng. Rydym yn cydweithio gydag asiantaethau a gwasanaethau niferus i gynnig parseli bwyd, celfi, dillad a phethau angenrheidiol eraill.

​

Mae Prosiect Xcel wedi dod a swyddi, gwasanaethau a buddsoddiad i'r ardal. Mae'n galluogi'r gymuned leol i roi cymorth ymarferol a chymdeithasol i eraill, ac mae hefyd yn gwella ein hamgylchedd. Yn ogystal â hyn, mae'n creu cyfleoedd euraidd i bobl gyfrannu fel gwirfoddolwyr.  Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy..

 

​

Canolfan Xcel

Lleolir Canolfan Xcel drws nesaf i'r Ganolfan Bowlio. Fe fydd yn cynnig awditoriwm o safon broffesiynol, ac ystod o ystafelloedd cyfarfod. Fe fydd hefyd yn gartref i'r eglwys.

Bowlio Xcel

Lle gwych i fowlio gyda ffrindiau a theulu. Cyfle i gael coffi, llawer o hwyl yn yr ardal chwarae i blant bach, a mwynhau pryd bwyd blasus. 

Celfi
Xcel

Gyda chelfi newydd yn dod i mewn bob dydd, mae'n werth edrych yn gyson i weld beth sydd ar gael.

Siop
Xcel

Mae'r siop gymunedol yn le bywiog, llawn amrywiaeth, sydd o hyd yn cynnig syrpreis. Os ydych angen degan am 10c, nifer o gwpanau te ar gyfer priodas, neu wisg newydd, dyma'r lle i chi.  

Banc Bwyd Caerfyrddin

Yn gwasanaethu'r gymuned ers 2010, mae'r banc bwyd yn wasanaeth cymunedol gwerthfawr iawn, ac yn le rhagorol i gynnig gwasanaeth fel gwirfoddolwr.  

CCMA

Yn rhoi cyngor am ddim sy'n ddiduedd, cyfrinachol, ac wedi'i deilwra i sefyllfa  unigolion.  Mae'r gwasanaeth yn rhoi cyngor ar sut i reoli cyllid, a dewis yr opsiwn orau i ddatrys problemau dyled.

bottom of page